Welais di'n rhedeg
Meddyliest y byddet yn saff
Gwelais yr oll
Y darlun wedi'w droi
Ddaw dim
Ddaw dim o hyn
A nawr ti'n syrthio
A'th enw yn pylu i'r gwynt
Unfaith eto, y gwybed yn sefyll draw
Ddaw dim
Ddaw dim o hyn
Annwyl Khalil
Mi geisiais dy dynnu o'r nos
Ond breichau gwag
Sy'n aros ar fy nghôf
Gymera'i di
Down â'r llygaid yn fyw
Rwy'n syrthio nawr ond does dim newid
Fe daflais y ceiniogau i gyd
Taflais yn bell, y dymuniad ola i mi
Y bodiau bach yn adfywio'r enaid
Mae'r bodiau hyn yn gwaredu y gelyn
A phan ddaw y bore daw dinistr y wawr
Gymerai di
Down â'r llygaid yn fyw
Rwyn syrthio nawr ond does dim newid
A oes ffurf yn y gannwyll
Wedi' hollti yn dri
Dy ddagrau dwfn yn ymgasglu a chasglu a
Dy wyneb trist yma'n rhewi yn ein cysgod ni
Fe gollais pob ffarwel
Fe gollais
Fedra'i ddim gorwedd
Mae'r oll o 'nghwmpas
Fe gollais pob ffarwel
Fe gollais
Fedra'i ddim gorwedd
Y seiren dawel
Annwyl Khalil
Mi geisiais dy dynnu o'r nos
Unwaith eto ddaw y gwybed i wylio'r oll